Adnoddau eChalk
Rydym wedi cychwyn datblygu partneriaeth gyffrous gydag eChalk, cwmni Cymreig sy’n canolbwyntio ar ddatblygu adnoddau rhyngweithiol ar-lein.
Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae GCaD Cymru wedi comisiynu datblygu adnoddau gydag eChalk, ond bydd ein partneriaeth newydd nid yn unig yn golygu y byddant yn parhau i ddatblygu adnoddau ar ein rhan, ond bydd holl athrawon Cymru, drwy gyfrwng rhwydwaith yr ysgol, yn gallu cael mynediad at y cyfan o adnoddau eChalk, a hynny yn rhad ac am ddim. Fel arfer, byddai’r adnoddau hyn ar gael yn unig drwy wasanaeth tanysgrifio.
Dros amser, byddwn yn cyfannu mynediad i’r adnoddau hyn yn rhan o GcaD Cymru ac yn ei gyfieithu i'r Gymraeg ond yn y cyfamser, gellir eu cyrchu drwy’r gwe-gysylltau Adnoddau Dysgu ar y safle, neu’n uniongyrchol drwy http://ngfl-cymru.echalk.co.uk/index.htm
DS. Gallwch ond cyrchu'r adnoddau hyn trwy rwydwaith eich ysgol.