Bydd y Gronfa Adnoddau Arloesol (CAA) yn darparu cyllid yn uniongyrchol i ysgolion/colegau er mwyn hyrwyddo datblygiad ystod eang o adnoddau addysgol gan ymarferwyr unigol neu grwpiau o ymarferwyr.
Bydd y rhaglen yn gweithredu dan yr amodau canlynol.
Cyllid
Amserlen
Y Cynnig
Y Deunyddiau
Cymeradwyaeth
Ffurflen Gais
Hawlfraint
- Cyllid
- ar gyfartaledd bydd tâl o rwng £500 a £1,500 yn cael ei gynnig ar gyfer pob prosiect,
- lle bydd grŵp o ymarferwyr yn cynhyrchu mwy o ddeunyddiau yna bydd cyllid ychwanegol ar gael – hyd at £6,000,
- yr ysgol/coleg neu’r ymarferwr fydd yn derbyn y tâl am ddeunyddiau a fydd yn cael eu cynhyrchu,
- gellir defnyddio’r cyllid i ryddhau ymarferwyr neu gellir ei drosglwyddo i ymarferwyr a fydd yn creu deunyddiau yn eu hamser eu hunain. Dylai’r ysgol/coleg a’r ymarferwyr negydu hyn ac nid yw hyn yn ymwneud â GCaD Cymru,
- bydd unrhyw daliadau a wneir i ymarferwyr yn agored i’w trethu gan Dreth y Wlad yn unol â’r cyfraddau arferol.
brig y dudalen
- Amserlen
- bydd angen cytuno ar amserlen glir a phendant i’r gwaith,
- yn arferol ni ddylai’r adnoddau gymryd mwy na 3 mis i’w paratoi wedi cychwyn y cytundeb,
- bydd Swyddogion Datblygiad Maes a swyddogion eraill GCaD Cymru yn cefnogi’r gwaith yn ystod cyfnod datblygu’r adnoddau.
brig y dudalen
- Y Cynnig
Bydd angen disgrifiad llawn o’r gweithgaredd arfaethedig gan GCaD Cymru gan ddefnyddio’r ffurflen bwrpasol a fydd yn cynnwys;
- cyfeiriad at Gyfnod Allweddol ac oed y disgyblion/myfyrwyr y bwriedir y gwaith ar eu cyfer,
- amcanion a thargedau pendant ar gyfer y pwnc neu’r thema,
- cyfeiriad at ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol/Manyleb Arholiad,
- sut bydd deilliannau’r dysgu yn gwella.
Yn ychwanegol at hyn rhaid i bob cynnig dderbyn cefnogaeth pennaeth yr ysgol/coleg.
brig y dudalen
- Y Deunyddiau
Dylai’r deunyddiau a gynhyrchir ateb y mwyafrif o’r gofynion isod gan;
- ffurfio rhan o uned gyfan o waith sydd yn rhoi sylw i faes penodol,
- ffurfio rhan o adran neu isadran mewn manyleb neu gynllun gwaith,
- gynnwys elfennau rhyngweithiol atyniadol (e.e. defnyddio animeiddiad, sain a fideo) - gellid eu datblygu mewn partneriaeth â GCaD Cymru,
- gynnwys gweithgareddau ar gyfer addysgu'r dosbarth cyfan y gellid eu defnyddio ar fwrdd gwyn rhyngweithiol,
- gynnwys gweithgareddau ymestynnol, gwaith gwahaniaethol, taflenni gwaith a gwaith cartref os yn berthnasol,
- gynnwys cyfarwyddiadau ac arweiniad cryno i ymarferwyr o ran defnyddio’r uned yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth,
- gynnwys gwaith sydd wedi ei greu yn Gymraeg neu yn Saesneg neu yn ddwyieithog.
Mae GCaD yn sylweddoli na fydd pob prosiect yn cyfarfod a’r holl amodau hyn a byddwn yn hapus i drafod unrhyw gais rhesymol.
Gellir ystyried derbyn prosiectau llai os ydynt yn addas.
brig y dudalen
- Cymeradwyaeth
Yn dilyn derbyn ffurflen CAA bydd aelod o staff GCaD Cymru yn trefnu i gyfarfod a’r athro/awes neu’r ymarferwyr perthnasol i drafod manylion y cais.
Wrth dderbyn prosiectau bydd GCaD Cymru yn sicrhau;
- bod yr adnoddau yn cyd-fynd â strategaeth a blaenoriaethau GCaD Cymru,
- •na fydd dyblygu adnoddau ar safwe GCaD Cymru,
- •y bydd y deunyddiau yn bodloni prosesau sicrhau ansawdd GCaD Cymru,
- •bod gan y cynnig fanteision pedagogaidd o ran yr addysgu a’r dysgu ac yn cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol,
- •nad yw’r gwaith yn cael ei gyllido o ffynonellau eraill yn ogystal e.e. rhaglen CACC,
- •bod gwaith yn cael ei ddatblygu ym mhob rhan o Gymru lle mae hynny yn bosibl.
brig y dudalen
Dylai ysgolion/colegau ac ymarferwyr sydd yn awyddus i wneud ceisiadau fod yn ymwybodol o’r amodau canlynol;
a. Bydd prosiectau addawol yn cael eu hadnabod gan Swyddogion Maes GCaD Cymru, swyddogion eraill GCaD Cymru, swyddogion AALl neu golegau.
b. Wedi adnabod prosiect addawol bydd angen i’r ysgol a’r athro/awes penodol lenwi ffurflen gais syml. Bydd y penderfyniad terfynol i dderbyn y prosiect yn seiliedig ar gynnwys y ffurflen hon.
c. Gellir adnabod prosiectau hefyd o ffurflenni a ddaw yn uniongyrchol at GCaD Cymru gan ymarferwyr.
ch. Gall GCaD Cymru gynnig cymorth technegol gyda rhai agweddau o’r gwaith e.e. creu animeiddiad.
d. Yr awduron fydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw oblygiadau ynglŷn â hawlfraint elfennau o’r gwaith yn cael eu datrys.
dd. GCaD Cymru fydd yn berchen pob hawl ar y deunyddiau – Hawlfraint y Goron.
e. Bydd y deunydd yn cael ei wirio o ran ansawdd ac yn dilyn y broses yma mae’n bosib y bydd gofyn i’r awdur ei ddiwygio.
f. Bydd hawl gan GCaD Cymru i addasu, datblygu a golygu'r deunyddiau yn ôl y gofyn.
ff. Bydd y deunyddiau yn cael eu gosod ar borth GCaD Cymru i’w dosbarthu i ysgolion/colegau Cymru.
g. Bydd cydnabyddiaeth i’r ymarferwyr a’r ysgolion/colegau sydd yn cyfrannu gwaith ar safwe GCaD Cymru.
ng. Bydd disgwyl i gyfranwyr gwblhau'r gwaith o fewn yr amser cytunedig.
h. Ni fydd unrhyw daliadau yn cael eu cynnig i ariannu caledwedd, meddalwedd nag unrhyw ddefnyddiau traul eraill.
i. Bydd y derbynnydd yn dod i gytundeb gyda GCaD Cymru er mwyn sicrhau fod pawb yn hollol glir o ran y gofynion a’r disgwyliadau.
j. Os nad yw'r amodau cytunedig yn cael eu cyflawni yna bydd hawl gan GCaD Cymru i leihau'r tal nei i wrthod talu am y gwaith.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â GCaD Cymru ar 029 20265177 neu gyda’r cyfeiriad e-bost yma:info@ngfl-cymru.org.uk
brig y dudalen