Adnoddau Addysgu > U/UG > Cymraeg Ail Iaith > Idiomau

Idiomau

Luned Davies a Sioned Williams - Ysgol Aberconwy - CBS Conwy
Mae’r uned hon yn cyd-fynd â chwestiwn cyntaf Adran A Defnyddio’r Iaith – Papur CA3 - yn y fanyleb Uwch Gyfrannol newydd Cymraeg Ail Iaith gan CBAC, ble y disgwylir i’r disgyblion allu llunio brawddegau eglur ar unrhyw bump neu fwy o’r rhestr o 43 idiom.Yn yr uned rhennir y 43 idiom i bedwar grŵp er mwyn hwyluso’r addysgu a’r dysgu. Ceir cyfle yma i’r athrawon ddatblygu sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu’r disgyblion trwy ddilyn y gweithgareddau ynghyd â datblygu’r sgiliau allweddol a sgiliau meddwl a datrys problemau. Ceir cyflwyniadau pwerbwynt perthnasol i fynd ati i addysgu’r disgyblion yn weledol ynghyd â gemau am ystyron yr idiomau ac ymarferion perthnasol ar gyfer y disgyblion. Yn ogystal â hyn, ceir tasgau i’r disgyblion eu cwblhau er mwyn sicrhau eu bod yn dod i wybod, deall a defnyddio’r idiomau’n llwyddiannus.