CCC logo
Afon Tywi o'r Awyr
The River Tywi from the Air
 
Cliciwch ar unrhyw un o'r lluniau i'w weld yn fwy.
Tynnwyd y lluniau hyn ym mis Awst 1996 gan Photoair. Mae’r cyfeirnodau grid a roddir yn cyfeirio at ganol y lluniau a gellir eu gweld ar daflenni 147, 160, 146, & 159. Cyngor Sir Caerfyrddin sydd biau hawlfraint y lluniau hyn.
 
Click on any picture to see it full size.
These photographs were taken in August 1996 by Photoair. Grid references given are approximately the centre of the pictures and to be found on sheets 147, 160, 146 &159. The copyright of the photographs is owned by Carmarthenshire County Council.

Tarddle'r Afon Tywi

Un nodwedd yn yr ardal ucheldir hon yw’r planhigfeydd conwydd sy’n achosi lefelau asid sylweddol yn rhai o lednentydd y Tywi. Mae lefelau asid uchel wedi lladd pysgod mewn nifer o leoliadau.

Cyfeirnod grid SN 805 629

Source of the River Tywi

An issue in this highland area are the conifer plantations that result in significant acid levels in some tributaries to the Tywi. High acid levels have killed off fish in a number of locations.

SN 805 629 map reference

Cronfa Llyn Brianne a'i Argae

Adeiladwyd yr argae hwn ym 1972 er mwyn darparu dwr i Abertawe. Boddi rhan o Gwm Gwendraeth oedd y bwriad gwreiddiol ond rhoddwyd terfyn ar y cynllun gwreiddiol yn sgîl gwrthwynebiad cryf yn lleol. Mae’r llun yn dangos bod lefelau’r dwr yn isel iawn. Ers i’r llun hwn gael ei dynnu, mae wal yr argae wedi’i chodi ac mae gweithfeydd trydan dwr wedi’u hadeiladu. Mae’r gweithfeydd sydd dan berchenogaeth Hyder yn cynhyrchu trydan i 6,500 o gartrefi ac yn lleihau maint y nwyon ty gwydr a gynhyrchir gan danwydd ffosil yn ôl 15 000 o dunelli y flwyddyn.

Cyfeirnod grid SN 788 487

Llyn Brianne Reservoir and Dam

The dam was constructed to provide water for Swansea in1972. The initial plan would have resulted in the flooding of the Gwendraeth Valley, but strong local opposition stopped this plan. The photograph shows that water levels are very low. Since the photograph was taken the dam wall has been raised and a small HEP plant has been constructed. The plant owned by Hyder produces electricity for 6,500 homes and reduces the amount of greenhouse gases produced by fossil fuels by 15 000 tonnes a year.

SN 788 487 map reference

Ystumiau rhychog a bryniau i’r de-orllewin o Gronfa Llyn Brianne

Ar un adeg y dirwedd hon oedd unig diriogaeth yr ychydig farcutiaid coch yng ngwledydd Prydain. Erbyn heddiw mae gan y Gymdeithas Gwarchod Adar warchodfa yn yr ardal. Mae hon yn ardal boblogaidd i dwristiaid ac mae nifer o wersylloedd yn y rhan hon o’r cwm. Pan adeiladwyd y gweithfeydd trydan dwr, roedd y cwmni wedi bwriadu codi peilonau i gynnal y ceblau. Llwyddodd grwpiau amgylcheddol yn yr ardal i sicrhau bod y ceblau’n cael eu claddu dan y ddaear.

SN 770 459

Incised meanders and hills to the south west of Llyn Brianne Reservoir

This landscape hid the last of the Red Kites in the UK. Today the RSPB has a reserve in the area. The area is popular with tourists and there are a number of camp sites in this part of the valley. When the HEP plant was constructed the power company originally intended constructing pylons to carry the cables. Environmentalists in the area were able to ensure that the cables were buried underground.

SN 770 459

Rheilffordd Calon Cymru yn croesi’r Afon Tywi i’r de orllewin o Lanymddyfri

Mae’r glannau gro i’w gweld yn glir felly hefyd y mae ystum Afon Gwydderg sy’n ymuno â’r Tywi mewn man sydd ychydig yn is nag ymyl waelod-dde y llun.

SN 754 335

Heart of Wales railway line crossing River Tywi to the south west of Llandovery

Gravel banks can be seen clearly as can a meander of the Afon Gwydderg which joins the Tywi just off the bottom right edge of the image.

SN 754 335

Ystumiau mawr i’r gorllewin o bentref Bethlehem

Mae cyfres o ystumiau clasurol yn torri i mewn i ymyl Dyffryn Tywi. Os edrychwch ar y llun yn ofalus, fe welwch y sianelau silt sy’n nodi lleoliad yr afon yn y gorffennol.

SN 663 247

Large meanders to the west of the village of Bethlehem

A series of classic meanders are cutting into the edge of the Tywi Valley. Careful examination of the photograph will show partly silted up channels which indicate where the river ran in the past.

SN 663 247

Gweithfeydd trin carthffosiaeth ac ystumiau yn Ffair-fach

Mae’r llun hwn hefyd yn dangos safle Eisteddfod Genedlaethol Dinefwr 1996. Mae’r gweithfeydd trin carthffosiaeth yn gwasanaethu ardal Llandeilo. Mae’r gorlifdir yn y rhan hon o’r dyffryn yn gorlifo’n aml gan ddenu adar ymfudol.

SN 616 211

Sewage works and meanders at Ffairfach

Also shows the site of the Dinefwr National Eisteddfod 1996. The sewage works services the Llandeilo district. The flood plain at this point of the valley frequently floods and attracts migrating birds.

SN 616 211

Ystumllyn yn Abergwili

Mae’r ystumllyn hwn yn ADGA (SSSI) a chafodd ei greu gan lifogydd yn 1802 a achosodd i’r Afon Tywi dorri cwrs newydd. Lleolir y llyn i’r dwyrain o Balas yr Esgob. Mae’r tyfiant ar arwyneb y llyn yn ei wneud yn anodd i’w weld, ond gellir dod o hyd i leoliad y nodwedd hon drwy gyfeirio at fap Arolwg Ordnans. Roedd sianel fer nad yw’n bosibl ei gweld bellach yn cysylltu Palas yr Esgob â’r afon a chafodd ei defnyddio gan yr ysgraffau a oedd yn cludo glo o faes glo’r Gwendraeth i’r bwyleri yn y Palas. Yn y man hwn, mae’r Tywi’n dod yn afon llanw.

SN 445 207

Ox bow lake at Abergwili

This ox bow lake is a SSSI and was created by the flood in 1802 which resulted in the Tywi cutting a new course. The lake runs to the east of the Bishop’s Palace. Growth on the surface of the lake makes it difficult to identify, but a quick look at the OS map will help locate the feature. A short channel which is no longer visible connected the Bishop’s Palace to the river and was used by barges carrying coal from the Gwendraeth coal field to the boilers in the palace. At this point the Tywi becomes a tidal river.

SN 445 207

Ystumiau amlwg yng Nghaerfyrddin

Mae’r ystumiau hyn yn ymestyn ar led y gorlifdir ac mae’r dyffryn cyfan dan ddwr adeg llanw uchel neu ar ôl glaw trwm. Wrth adeiladu’r ffordd osgoi newydd i’r dwyrain o Gaerfyrddin bu’n rhaid newid cwrs yr afon er mwyn i’r ffordd osgoi fedru dilyn llwybr yr hen reilffordd a sianel gyfagos yr afon.

SN 422 201

Pronounced meanders at Carmarthen

These meanders run the complete width of the flood plain and the entire valley is completely flooded at high tide after heavy rainfall. The newly constructed Carmarthen East bypass has resulted in the movement of the Tywi so that the bypass can run along the route of the old railway line and the adjacent channel of the river.

SN 422 201

Croesfan ffordd a rheilffordd yng Nghaerfyrddin

Tref hynafol Caerfyrddin yw man pontio isaf y Tywi ers cyfnod y Rhufeiniaid pan godwyd pont bren gadarn gan Leng II Augustus yn ôl pob tebyg. Roedd y bont yn croesi’r afon mewn man sy’n agos iawn at y bont tri bwa bresennol. O dan y bont y mae’r cei a oedd y prif bwynt cyfathrebu â gweddill y byd hyd nes i’r rheilffyrdd gael eu hadeiladu yng nghanol y 18fed Ganrif. Roedd y rheilffordd yn croesi’r Tywi dros y Bont Wen (sydd wedi’i pheintio’n llwyd erbyn heddiw) gan ymestyn mor bell â phorthladdoedd y llongau fferi yn Sir Benfro. Er mwyn sicrhau na fyddai’r bont yn amharu ar fasnach ar yr afon, adeiladwyd pont godi. Yn yr 1970au pan gafodd y ffordd osgoi ddeheuol ei hadeiladu, codwyd Pont Lesneven i gario’r A48. Enwyd y bont ar ôl gefeilldref Caerfyrddin yn Llydaw.

SN 407 190

Road and rail crossing at Carmarthen

The ancient town of Carmarthen has been the lowest bridging point of the Tywi since Roman times when a sturdy wooden bridge was erected, probably by the II Augustan Legion. The bridge crossed the river very close to the site of the present three arched bridge. Below the bridge is the quay which was the main point of communication with the wider world until the railways arrive in the mid 19th century. The railway crossed the Tywi over the White Bridge (today painted grey) and ran on to the Irish ferry terminals in Pembrokeshire. To ensure that the bridge did not interfere with the river trade a draw bridge was incorporated. In the 1970’s the southern by pass resulted in Pont Lesneven being constructed to carry the A48. The name comes from Carmarthern’s partner town in Brittany.

SN 407 190

Fflatiau Llaid ym Morfa Uchaf

Silt, llaid a morfa heli yw nodweddion amlycaf y rhan hon o’r Tywi. Mae clwb hwylio lleol wedi manteisio ar y lleoliad cysgodol a’r mynediad hawdd i Fae Caerfyrddin drwy greu canolfan yno. Mae rheilffordd Abergwaun i Paddington yn dilyn yr afon i’r môr a gellir ei gweld ar ymyl Morfa Uchaf.

SN 367 128

Mudflats at Morfa Uchaf

Silts, muds and salt water marshes characterise this part of the Tywi . A local sailing club have taken advantage of the sheltered location and easy access to Carmarthen Bay to locate at this point. The Fishguard to Paddington railway line follows the river to the sea and can be seen on the edge of Morfa Uchaf.

SN 367 128

Aber Tywi

Yn y man hwn, mae’r Tywi yn llifo i Fae Caerfyrddin a’r môr. Enw’r pentref ar ochr ddwyreiniol yr afon sy’n wynebu Llansteffan a’i gastell enwog yw Glanyfferi. O dan y castell gellir gweld clogwyni calchfaen a hen dywodfaen coch. Pan fo’r môr ar drai mae’r glannau tywod a llaid yn cael eu dinoethi ac mae’r rhain yn feysydd bwydo pwysig i adar.

SN 346 095

The Tywi Estuary

At this point the River Tywi flows into Carmarthen Bay and the sea. The settlement on the eastern side of the river is Ferryside which faces Llansteffan with its famous castle. Below the fortification can be seen Limestone and Old Red Sandstone cliffs. When the tide is out banks of sand & mud are exposed which are important feeding grounds for birds.

SN 346 095

Crewyd y safle yma gan Ganolfan Datblygu TGC Ysgolion A.A.Ll. Sir Gaerfyrddin. Rhowch gymorth drwy ymateb os gwelwch yn dda
This site was created by the Carmarthenshire L.E.A. Schools' ICT Development Centre. Please help by giving us feedback.